LEE HAVEN JONES

Wedi fy ngeni a’m magu yn Aberpennar, graddiais i o Brifysgol Caerwysg gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Drama ac enillais Ysgoloriaeth Cameron Mackintosh i astudio actio yn RADA.  ‘Rwyf wedi gweithio ar lwyfan ac ar sgrîn gyda’r National Theatre, BBC, S4C, National Theatre Wales, Theatr Genedlaethol Cymru, Theatr 59E59 yn Efrog Newydd a Clwyd Theatr Cymru, lle y chwaraeais i Hamlet.  Cyfarwyddais fy mhrosiect sgrîn cyntaf yn 2009, gwaith a gafwyd enwebiad yng nghategori Dogfen Gorau yr Wŷl Cyfryngau Celtaidd.  Ers hynny, ‘rwy wedi cyfarwyddo sawl drama, gan gynnwys THE INDIAN DOCTOR, WIZARDS vs ALIENS, WATERLOO ROAD, CASUALTY, ALYS, CAERDYDD a POBOL Y CWM.  Yn 2013 enillais gwobr CYFARWYDDWR GORAU BAFTA Cymru ar gyfer fy ngwaith ar THE INDIAN DOCTOR.  ‘Rwy’n gyfarwyddwr a chyd-sylfaenydd Joio ac yn ddiweddar cynhyrchais a chyfarwyddais y gyfres TIR.  Mae fy ffilm fer, WANT IT, i’w gweld ar y gylchdaith ffilm ryngwladol.